1) Pa mor bell wyt ti'n byw o'r dosbarth? 2) Beth wyt ti'n hoffi fwyta amser brecwast? 3) Pa fis yw'r gwlypa yng Nghymru? 4) Pwy yw dy hoff ganwr neu gantores? 5) Beth yw'r peth anodda am ddysgu Cymraeg? 6) Pa mor hir yw dy daith i'r dosbarth? (amser) 7) Pa waith yn y tŷ dwyt ti ddim yn hoffi o gwbl? 8) Cymhara ddwy siop. (drud) 9) Beth do't ti'n ddim yn hoffi fwyta pan o't ti'n blentyn? 10) Pa fath o gerddoriaeth dwyt ti ddim yn hoffi? 11) Pwy yw'r hena yn dy deulu? 12) Beth yw'r peth pwysica wrth ddysgu Cymraeg? 13) Pryd wyt ti hapusa? 14) Beth fyddi di'n ddathlu nesa? 15) Cymhara'r tywydd heddiw a ddoe. 16) Pa un yw dy hoff ffilm? 17) Beth yw dy enw llawn? 18) Beth wyt ti'n hoffi goginio? 19) Pa mor braf oedd hi ddoe? 20) Beth oedd dy gyfenw pan gest ti dy eni? 21) Wyt ti'n hoffi dathlu Nos Galan? Pam? Pam lai? 22) Cymhara ddau fwyd. (blasus) 23) Ym mha fis mae dy ben-blwydd? 24) Beth dwyt ti ddim yn fwynhau am y Nadolig? 25) Dwed rywbeth am dy dŷ diwetha. 26) Pa mor braf oedd hi mis Awst diwetha? 27) Cymhara ddau fis. 28) Pa mor hen yw dy gar? 29) Pa fwyd dwyt ti ddim yn hoffi? 30) Dwed rywbeth am dy dŷ pan o't ti'n blentyn. 31) Beth yw'r rhaglen deledu orau ar hyn o bryd? 32) Pa fis yw'r oera yng Ngymru? 33) Beth wnest ti nos Sadwrn? 34) Pwy yw'r person mwya doniol ar y teledu? 35) Beth ddathlaist ti ddiwetha? 36) Pa un yw dy hoff dŷ bwyta? 37) Pa fath o raglenni teledu dwyt ti ddim yn hoffi? 38) Pwy yw'r person prysura wyt ti'n nabod? 39) Pryd siaradais ti a'r cymdogion ddiwetha? 40) Dwed rywbeth am dy gymdogion. 41) Beth wyt ti'n fwynhau am y Nadolig? 42) Beth yw enw'r gwesty druta yn yr ardal? 43) Pwy yw'r ifanca yn dy deulu? 44) Beth yw dy gyfenw? 45) Oes anifail dwyt ti ddim yn hoffi? 46) Cymhara ddwy dref. (prysur) 47) Dwed rywbeth am dy dŷ. 48) Pa mor brysur fyddi di y penwythnos nesa? 49) Pa ddiod dwyt ti'n ddim yn hoffi? 50) Dwed rywbeth am dy hoff le yn yr ardal. 51) Pa mor bell yw'r orsaf drenau agosa o dy dŷ? 52) Pa mor brysur o't ti y penwythnos diwetha?

Sylfaen 2 cwestiynau uned 21

Leaderboard

Open the box is an open-ended template. It does not generate scores for a leaderboard.

Visual style

Options

Switch template

Continue editing: ?