Allech chi ddod â'r plant adre o'r ysgol i fi? - Gallwn, wrth gwrs, mae'r car gyda fi heddiw., Wnewch chi warchod fy neidr i pan dw i ar wyliau? - Dim o gwbl! Mae'n gas gyda fi nadroedd!, Dych chi'n gallu benthyg eich car chi i fi? - Mae'n flin gyda fi ond dw i ddim yn gallu benthyg fy nghar i i neb., Wnei di helpu gyda threfniadau'r cyngerdd? - Gwnaf i rifo'r tocynnau a gosod y cadeiriau., Allwn i gael mwy o amser i dalu? - Dyw hynny ddim yn bosib, rhaid i chi dalu nawr., Gaf i ofyn cymwynas? Dw i angen ychydig o help... - Cewch wrth gwrs, sut galla i eich helpu chi?, Fasai ots gyda chi taswn i'n mynd adre'n gynnar heddiw? - Dyw hynny ddim yn bosib, mae gormod o waith gyda ni ar hyn o bryd., Wnewch chi ddod gyda fi i'r cyfarfod yfory? - Mae'n flin gyda fi, dw i'n rhy brysur yfory., Fasech chi'n gallu rhoi bwyd i'r gwningen pan fyddwn ni ar wyliau? - Baswn i'n hapus i wneud, dim problem o gwbl. Fydd hi yn yr ardd neu yn y tŷ?, Dych chi'n fodlon rhoi lifft i Twm i'r arholiad? - Ydw, wrth gwrs, mae digon o le yn y car iddo fe., Fasai hi'n iawn i ni orffen y cyfarfod yn gynnar? - Basai, wrth gwrs. Baswn i wrth fy modd yn mynd adre nawr., Hoffech chi helpu gyda'r bwffe bys a bawd? - Hoffwn i eich helpu chi ond mae'n amhosibl ar hyn o bryd. Does dim trydan gyda fi gartre., Allwn i ofyn cymwynas fach? - Gallech, wrth gwrs. Sut galla i helpu?, Wnewch chi siarad yn arafach, os gwelwch chi'n dda? - Wrth gwrs. Dw i yn siarad braidd yn gyflym!, Fasai ots gyda chi taswn i'n gofyn am help gyda'r gwaith yma? - Na fasai, wrth gwrs. Dw i'n hapus i drio helpu., Gaf i ofyn pam dych chi'n gyrru mor gyflym? - Cewch, ond dw i'n hwyr iawn i'r cyfarfod.,

Uned 17 Canolradd (de) - gofyn cymwynas

Skor Tablosu

Görsel stil

Seçenekler

Şablonu değiştir

Otomatik olarak kaydedilen geri yüklensin mi: ?